Cofnodion cryno - Y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon


Lleoliad:

Ystafell Bwyllgora 3 - Senedd

Dyddiad: Dydd Iau, 15 Rhagfyr 2016

Amser: 10.00 - 12.31
Gellir gwylio’r cyfarfod ar
Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/3859


Yn bresennol

Categori

Enwau

Aelodau’r Cynulliad:

Dai Lloyd AC (Cadeirydd)

Angela Burns AC

Rhun ap Iorwerth AC

Caroline Jones AC

Julie Morgan AC

Lynne Neagle AC

Tystion:

Naomi Alleyne, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Simon Wilkinson, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Robert Hartshorn, Cyfarwyddwyr Diogelu’r Cyhoedd Cymru

Dr Sarah Jones, Cyfarwyddwyr Diogelu’r Cyhoedd Cymru

Dr Phil Banfield, British Medical Association (Wales)

Dr Stephen Monaghan, Cymdeithas Feddygol Prydain

Dr Jane Fenton-May, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Cymru

Dr Rebecca Payne, Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol

Staff y Pwyllgor:

Claire Morris (Ail Glerc)

Sarah Sargent (Dirprwy Glerc)

Gareth Howells (Cynghorydd Cyfreithiol)

Philippa Watkins (Ymchwilydd)

 

Trawsgrifiad

Gweld trawsgrifiad o’r cyfarfod (PDF 424KB) Gweld fel HTML (244KB)

 

1       Cyflwyniad, ymddiheuriadau, dirprwyon a datgan buddiannau

1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod

1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Dawn Bowden AC a Jayne Bryant AC.

 

2       Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): Cyfnod 1, sesiwn dystiolaeth 4 - Sefydliad Siartredig Iechyd yr Amgylchedd - WEDI'I OHIRIO

 

3       Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): Cyfnod 1, sesiwn dystiolaeth 5 - Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Cyfarwyddwyr Diogelu'r Cyhoedd Cymru

3.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chyfarwyddwyr Diogelu'r Cyhoedd Cymru.

3.2 Cytunodd Simon Wilkinson i adolygu'r adrannau yn y Bil sy'n yn ymwneud ag Asesiadau o'r Effaith ar Iechyd, a darparu nodyn yn esbonio a yw'r Bil fel ag y mae wedi'i ddrafftio ar hyn o bryd yn eglur o ran sut y bydd cynnal Asesiadau o'r Effaith ar Iechyd yn arwain at wella iechyd y cyhoedd.

 

4       Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru): Cyfnod 1, sesiwn dystiolaeth 6 - BMA Cymru Wales a Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol

4.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan gynrychiolwyr o BMA Cymru a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol.

4.2 Cytunodd Dr Stephen Monaghan i ddarparu tystiolaeth ynghyd ag unrhyw waith ymchwil sydd wedi cael ei wneud ar feirysau a gludir yn y gwaed a'u tarddiad yng nghyd-destun gweithredfnau arbennig a thyllu'r corff.

 

5       Cynnig o dan Reol Sefydlog 17.42 i benderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod

5.1 Derbyniodd y Pwyllgor y cynnig.

 

6       Bil Iechyd y Cyhoedd (Cymru) - Cyfnod 1, sesiynau tystiolaeth 4, 5 a 6 - trafod y dystiolaeth

6.1 Trafododd y Pwyllgor y dystiolaeth a gafwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyfarwyddwyr Diogelu'r Cyhoedd Cymru, BMA Cymru a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol.